Aber Falls (Rhaeadr Fawr)

Mae dŵr pur Cymru wedi bod yn llifo o’r Rhaeadr Fawr ers miloedd o flynyddoedd. Caiff y rhaeadr ryfeddol hon ei ffurfio wrth i Afon Goch blymio tua 120 o droedfeddi dros ochr y graig ar odre’r Carneddau. Mae’r safle’n denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i ryfeddu at ei brydferthwch. Y llif diddiwedd hwn yw ffynhonnell ein dŵr a fydd yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ein gwirodydd... Naws Gogledd Cymru!