Ffair Nadolig Llandudno – Diolch!

Hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ddaeth i’n cefnogi yn Ffair Nadolig Llandudno y penwythnos diwethaf. Fel lansiad swyddogol ein casgliad o liqueur a jin â blas, roeddem wrth ein bodd o glywed eich canmoliaeth a’ch adborth anhygoel ar ein cynhyrchion.