Ein Liqueurs - Aber Falls Whisky Distillery

Cyfuniadau unigryw o flasau, sy’n berffaith i’r rhai sy’n hoffi coctels

Mae ein casgliad o liqueurs wedi’i ysbrydoli gan ein treftadaeth Gymreig a’r ardal anhygoel o’n cwmpas, ac mae’n cael ei gynhyrchu a’i botelu yn nistyllfa Aber Falls i warantu’i ansawdd a’i ddilysrwydd.

Sut bynnag rydych yn eu hyfed – ar eu pen eu hunain, dros rew, neu mewn coctel wedi’i baratoi’n ofalus, mae liqueurs Aber Falls yn unigryw, yn flasus ac yn fythgofiadwy!

Taith drwy amserLIQUEUR FIOLED

Mae’r fioled yn tyfu’n garped porffor hardd ar lannau’r Fenai, ac mae’r blas yn dod ag atgofion o hoff fferins eich plentyndod, a’r arogl blodeuog unigryw yn deffro’r synhwyrau.

Cyf. 70cl & 5cl
|
ABV 20.8%

Y cyfuniad perffaith o hallt a melysLIQUEUR TAFFI HALEN

Ar y cyd â Halen Môn PDO, rydym wedi datblygu liqueur sy’n cyfuno blas taffi llyfn, cyfoethog â nodweddion glân a chryf Halen Môn, y mae ei flas unigryw wedi cael ei ganmol gan enwogion fel Gordon Ramsay, Heston Blumenthal a hyd yn oed Barack Obama.

Cyf. 70cl & 5cl
|
ABV 20.3%

Llyfn fel melfedLIQUEUR COFFI A SIOCLED TYWYLL

Mae’r liqueur hwn sydd wedi’i ysbrydoli gan yr Espresso Martini poblogaidd, yn cydbwyso blas coffi rhost, sawrus yn berffaith â blas siocled tywyll chwerw-felys.

Cyf. 70cl & 5cl
|
ABV 20.6%

TANYSGRIFIWCH I’N CYLCHLYTHYR